R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr):A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni drwy driniaeth thermol uwch (pyrolysis)? OAQ(4)0211(NR)
2. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddyfodol parciau cenedlaethol Cymru? OAQ(4)0202(NR)
3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y broses apelio o ran dosbarthu tir ar gyfer taliadau Cynllun y Taliad Sengl? OAQ(4)0212(NR)
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddyraniad cyllid y Gronfa Natur? OAQ(4)0215(NR)W
5. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar darged Cyfoeth Naturiol Cymru i blannu 100,000 hectar o goetir erbyn 2030? OAQ(4)0206(NR)W
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llysiau'r dial? OAQ(4)0203(NR)
7. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ailgylchu gwastraff organig yng Nghymru? OAQ(4)0207(NR)
8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i atal y clefyd llarwydd rhag lledaenu? OAQ(4)0201(NR)
9. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i adolygu'r gofynion ynghylch ailgyfeirio llwybrau cyhoeddus lle maent yn rhwystro arallgyfeirio ar ffermydd? OAQ(4)0217(NR)W
10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i barciau cenedlaethol? OAQ(4)0205(NR)
11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar arbed ynni yn y sector cyhoeddus? OAQ(4)0213(NR)W
12. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gefnogaeth sydd ar gael i ffermwyr yr ucheldiroedd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed drwy Lywodraeth Cymru? OAQ(4)0209(NR)
13. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A yw'r Gweinidog yn bwriadu adolygu'r fframwaith statudol ar gyfer mynediad i gefn gwlad? OAQ(4)0216(NR)W
14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar atal llifogydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0210(NR)
15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0204(NR)
Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar amcanion cyllid Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0228(CTP)
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r trydydd sector yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0229(CTP)
3. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar argaeledd tai addasol i bobl anabl? OAQ(4)0227(CTP)
4. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gyfarfodydd y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch diwygio lles ers ei phenodiad? OAQ(4)0241(CTP)W
5. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar asedau o werth cymunedol? OAQ(4)0245(CTP)W
6. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy'n effeithio ar lesddeiliaid yn Nhorfaen? OAQ(4)0233(CTP)
7. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei chynlluniau i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru? OAQ(4)0230(CTP)
8. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i greu cymunedau bywiog a chynaliadwy yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)0244(CTP)
9. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar hawliau plant a phobl ifanc yn sgil adroddiad blynyddol y Comisiynydd Plant? OAQ(4)0238(CTP)W
10. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y bydd y toriadau arfaethedig i'r gyllideb yn effeithio ar dlodi plant yng Nghymru? OAQ(4)0236(CTP)
11. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y gallai toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol ei chael ar y sector gwirfoddol? OAQ(4)0242(CTP)
12. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar brosiectau Cymunedau yn Gyntaf yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0232(CTP)
13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa strategaethau y mae'r Gweinidog yn eu defnyddio i sicrhau bod Dechrau'n Deg, Cymunedau yn Gyntaf a mentrau gwrthdlodi eraill yn cydweithio mewn ffordd briodol? OAQ(4)0235(CTP)
14. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yng Nghanol De Cymru yn 2015/16, yn sgil cyhoeddi'r gyllideb ddrafft? OAQ(4)0239(CTP)
15. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0231(CTP)